top of page

Susan Roberts

Mae Sue Roberts wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd ers deng mlynedd ar hugain.


Cafodd ei magu yn Lloegr, Canada, California, Borneo a'r Philipinau lle bu ei thad yn dysgu Saesneg.


Symudodd i Gymru dros 30 mlynedd yn ôl gyda’i phartner sy’n Gymro. Astudiodd yng Nglyntaf ac yna UWIC i wneud BA ac MA mewn Celfyddyd Gain, gan gwblhau ei hastudiaethau ffurfiol yn 2003. Bu’n dysgu arlunio yn Neuadd Llanofer, Caerdydd am 15 mlynedd gan roi cymhorthdal i’w stiwdio, ond gadawodd i ganolbwyntio ar ei gwaith ei hun.


Mae’n aelod o’r Grŵp Cymreig, Sculpture Cymru, yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Celfyddydau’r Merched, ac yn aelod o Grŵp Arlunio Caerdydd ac Artistiaid Bro Morgannwg (VOGA).


Yn 2014 ffurfiodd hi a dau artist arall grŵp newydd o'r enw 3ormore. Mae'n grŵp arddangos sy'n gwahodd artistiaid eraill i ddangos gyda nhw. Mae Sue Roberts wedi derbyn grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru gan gynnwys grant cynhyrchu i wneud gwaith.

​

Gwefannau eraill:
 

www.facebook.com/figureinthelandscape
www.sculpturecymru.org.uk
www.vogavaleart.org

 

Eni: Seaford, Lloegr.

Yn byw: Tongwynlais, Caerdydd, Cymru.

 

Addysg:

2001-2003, UWIC, Howard Gardens, Caerdydd, MA Celfyddyd Gain.
1998 – 2001, UWIC, Howard Gardens, Caerdydd, BA anrh Celf ac Estheteg.
2001, Enillydd: Gwobr Ysgol.
1997-1998, Coleg Celf a Dylunio Pontypridd. Sylfaen - Rhagoriaeth.
1979-1982, Bulmershe College, Woodley, Reading, B.Ed.

 

Arddangosfeydd diweddar dethol:

2013 - 2014, Y Grŵp Cymreig, Arddangosfa Deithiol; California a Florida, UDA ac Celf Canolog, y Barri.
2014 - 2015, arddangosfa deithiol y Grŵp Cymreig Cyfnewidfa Almaeniggyda BBK; Canolfan Dreftadaeth y Rhondda; Mid Wales Arts Centre; Gas Gallery Aberystwyth; Dusseldorf.
2014, The Gasworks, Aberystwyth, Chwefror 
2014, Sculpture Cymru, arddangosfa deithiol; Oriel Lliw Pontardawe; Wyeside Arts Centre, Llanfair-ym-Muallt; Celf Canolog, Y Barri.
2014, Sioe Unigol, Amgueddfa ac Oriel Gelf Cwm Cynon, Aberdâr. 
2013, Alun Hemming a Sue Roberts, Oriel Canfas, Caerdydd.
2014, 3ormor, Shirley Anne Owen, Kay Keogh, Sue Roberts, gyda Paul Baker, Y Senedd ac Oriel Y Dyfodol, Cynulliad Cymru, Caerdydd.
2013, VOGA, Celf Canolog, Y Barri.
2013, Cardiff Drawing Group, Bhac.
2013, Alun Hemming a Sue Roberts, Oriel Canfas, Caerdydd. 
2013, 3ormore, Shirley Anne Owen, Kay Keogh, Sue Roberts, gyda Laura Holliday a Bernard Heslin, Celf Canolog, Y Barri.
2013, Cardiff Drawing Group, Bhac.
2013, Haus Wittgenstein, Llysgenhadaeth Bwlgaria, Taith- Celfyddydau Cyfoes, Fienna, Awstria.

bottom of page